Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-08-11 papur 4

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth gan y Grid Cenedlaethol

 

                         

 

 

 

Pwyntiau Allweddol

 

§  Mae ynni yn hanfodol ar gyfer iechyd a ffyniant Prydain. Ac mae angen i’r ynni hwnnw fod yn fforddiadwy, o safbwynt economaidd ac amgylcheddol. Ond mae ynni yn newid – o ble y daw, sut y caiff ei gynhyrchu a’r ffordd y caiff ei ddefnyddio.

 

§  O ystyried y newidiadau yn y diwydiant ynni, yr ymrwymiad i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac oedran asedau trawsyrru National Grid, mae angen cryn dipyn o fuddsoddi a datblygu er mwyn sicrhau seilwaith ynni newydd.

 

§  Er mwyn cyrraedd targedau’r Deyrnas Unedig[1], amcangyfrifir bod angen buddsoddi tua £200 biliwn erbyn 2020 mewn pob math o dechnolegau cynhyrchu, trawsyrru a dosbarthu ynni cynaliadwy – mawr a bach, ar y tir ac ar y môr, a ledled y Deyrnas Unedig. Mae National Grid ei hunan yn bwriadu buddsoddi £30.7bn yn y systemau trawsyrru nwy a thrydan yn y cyfnod  2013/4-2020/1[2].

 

§  Gan fod yr ‘her ynni’ mor eithriadol o fawr, mae’n bwysig cael system gynllunio sy’n hwyluso datblygiad seilwaith ynni mewn ffordd amserol, cost-effeithiol a chyfrifol. Bu National Grid yn gryf o blaid y newidiadau i’r system gynllunio a gyflwynwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008 yn cynnwys y datganiad clir o bolisi ynni yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol a’r broses gynllunio symlach a gyflwynwyd gan y Ddeddf.


 

Crynodeb Gweithredol

 

1.   Fel y nodwyd yn Natganiad Polisi Cenedlaethol EN-1[3], mae angen mwy o fuddsoddiad mewn technolegau carbon isel ac mewn ffynonellau ynni mwy amrywiol er mwyn diwallu anghenion Prydain am ynni yn y dyfodol.  Bydd rhai o’r ffynonellau ynni newydd yn bell o’r rhwydwaith trawsyrru trydan presennol neu bydd angen cryfhau’r rhwydwaith i gario rhagor o bŵer.  Bydd angen sicrhau cydbwysedd rhwng ffynonellau ynni adnewyddadwy llai rhagweladwy ar y naill law a gorsafoedd pŵer nwy mwy hyblyg ac atomfeydd mwy sefydlog ar y llall.  Caiff mwy o’n nwy naturiol ei fewnforio.  Bydd rhai o’r datblygiadau ynni hyn ar y tir a rhai ar y môr.  Er mwyn ymateb i’r heriau hyn, bydd angen gwneud newidiadau i’r rhwydweithiau trawsyrru trydan a nwy a datblygu rhwydweithiau i gludo carbon sydd wedi’i ddal a’i storio.

 

2.   Felly, mae angen cyd-destun cryf, clir, cydgysylltiedig a chyfunol o ran polisi ynni a chynllunio er mwyn annog y math cywir o arloesi a buddsoddi – o’r lefel Ewropeaidd a Phrydeinig i’r lefel leol.

 

3.   Mae’r set o Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol[4] (NPSs) ym maes ynni, a ddynodwyd yn ddiweddar o dan Ddeddf Cynllunio 2008[5], wedi cyflwyno fframwaith clir ar gyfer datganiadau polisi cenedlaethol ym Mhrydain ac mae National Grid yn gryf o’u plaid.  Dylai’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol sicrhau y ceir y cydbwysedd iawn yn yr ystyriaethau ynghylch penderfyniadau am Brosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd (NSIPs), gan dalu sylw i’r angen am y seilwaith, yr effeithiau lleol  a rhan y gymuned yn llunio cynlluniau ar gyfer datblygiadau.

 

4.   Mae National Grid yn gryf o blaid yr eglurdeb y mae’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn ei roi a’r ffaith ei bod yn ofynnol i benderfyniadau ar geisiadau am gydsyniad o dan Ddeddf Cynllunio 2008 gael eu gwneud yn unol â’r Datganiadau hynny. Yn ein barn ni, mae hyn yn hanfodol ar gyfer y buddsoddiad angenrheidiol.  Ceir eglurdeb ynghylch statws y Datganiadau, o ran y broses o benderfynu ar yr NSIPs, y berthynas rhwng y Datganiadau a dogfennau eraill ar bolisi cynllunio ac o ran cynlluniau i ddatblygu a gaiff eu hystyried o dan drefniadau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

5.   Materion i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru benderfynu arnynt yw’r pwyntiau y mae’r ddwy lywodraeth yn anghytuno arnynt ynghylch cais Cymru i drosglwyddo’r cyfrifoldebau dros ganiatâd ym maes ynni a pholisi niwclear.  Mae Natiional Grid yn croesawu’r ffaith ei bod yn ymddangos bod cytundeb bras ar faterion yn ymnweud ag ynni[6], ar wahân i’r ddau bwynt hynny.

 

6.   Yn ogystal â chyd-destun clir ar gyfer polisi cenedlaethol ar ynni a chynllunio, mae Deddf Cynllunio 2008 yn cyflwyno trefn un caniatâd ac yn rhoi mwy o sicrwydd am amserlenni ceisiadau am Brosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd (NSIPs) – system gynllunio symlach, gan sicrhau y dilynir yr arferion gorau yn gyson a bod y gymuned a’r rhanddeiliaid yn cymryd rhan mewn ffordd effeithiol a phriodol.   Mae National Grid yn gryf o blaid y drefn newydd.

 

7.   Er bod y syniad o drefn un caniatâd yn fwy perthnasol i Loegr nag i Gymru, gan mai cyfyngedig iawn yw’r gallu i gynnwys datblygiadau cysylltiedig mewn Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) yng Nghymru, gellir cynnwys rhai cydsyniadau/caniatadau mewn cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu yng Nghymru gyda chytundeb y corff penderfynu arferol.  Byddai National Grid yn annog y defnydd pragmataidd o’r dewis hwnnw o dan amgylchiadau priodol.

 

Cyflwyniad i National Grid

 

8.   Rhoddir yr ymateb hwn ar ran National Grid. Mae National Grid yn berchen ar y gridiau y mae llawer o wahanol ffynonellau ynni wedi’u cysylltu â hwy ac mae’n eu rheoli hefyd. Ym Mhrydain, rydym yn rhedeg systemau sy’n cyflenwi nwy a thrydan ledled yr holl wledydd. Yng Ngogledd Ddwyrain yr Unol Daleithiau, rydym yn darparu pŵer yn uniongyrchol i filiynau o gwsmeriaid.Rydym mewn safle hollbwysig yng nghanol y system ynni. Ni sy’n cysylltu popeth.

 

9.   Ein pwrpas yw cysylltu pobl â’r ynni y maent yn ei ddefnyddio. Mae pawb ohonom yn dibynnu ar gael ynni ar flaenau’n bysedd:adeiladwyd ein cymdeithas ar hynny.O’r gwres a’r golau sydd gennym gartref, a’r pŵer syn sicrhau bod ein ffatrïoedd a’n swyddfeydd yn dal i weithio, i dechnoleg gyfathrebu symudol a thechnolegau seilwaith eraill sy’n rhan hanfodol o’n ffordd o fyw ni heddiw.

 

10.        Mae hynny’n rhoi National Grid wrth galon un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein cymdeithas; helpu i greu datblygiadau newydd ym maes ynni adnewyddadwy ar gyfer y dyfodol a datblygu system ynni a all fod yn sail i’n ffyniant economaidd yn yr 21ain ganrif.

 

Yr angen i allyrru llai o garbon

 

11.        Mae Deddf Newid Hinsawdd 2008[7] yn nodi ei bod yn rhaid i allyriadau carbon deuocsid (CO2) y Deyrnas Unedig ostwng yn sydyn.  Erbyn 2020, mae’n rhaid iddynt fod 34% yn llai nag yn 1990 ac erbyn 2050 mae’n rhaid sicrhau gostyngiad o 80%.  Fel y mae Datganiad Polisi Ynni Llywodraeth Cymru – Chwyldro Carbon Isel (Mawrth 2010)[8] yn cydnabod, mae angen i ni sicrhau bod arnom angen llai o ynni trwy arbed ynni, gwneud mwy o ddefnydd o wres cynaliadwy ac, yn bwysicaf oll, o safbwynt lleihau allyriadau carbon, trwy ddarparu llawer mwy o’r ynni y mae arnom ei angen trwy systemau trydan a thrydan carbon isel.  Felly, ar hyn o bryd mae tua 3% o’n hynni yn dod o ffynonellau adnewyddadwy ond, erbyn 2020, mae angen i hyn godi i 15%.

 

12.        Mae National Grid a Llywodraeth Cymru yn cytuno, fel yr amlinellwyd yn Natganiad y Llywodraeth ar Bolisi Ynni, y gallai mynd i’r afael â’r heriau hyn ddod â chyfleoedd economaidd sylweddol. Credwn ei bod yn hanfodol cael fframwaith polisi cryf i annog pobl i arloesi ac i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ac mewn arbed ynni er mwyn lleihau allyriadau carbon, sicrhau manteision economaidd, diogelu ffynonellau ynni, creu swyddi ac annog meithrin sgiliau. 

 

Diogelu ffynonellau ynni

 

13.        Gall ffynonellau ynni adnewyddadwy fod yn llai rhagweladwy, ond mae risgiau gyda ffynonellau eraill hefyd, fel y dangoswyd gan ddamwain Deepwater Horizon yng Ngwlff Mexico, y problemau a gafwyd yn atomfa Fukushima yn Japan, ac effaith yr aflonyddwch yng Ngogledd Affrica a’r Dwyrain Canol ar gyflenwadau olew.   Er mwyn talu sylw i hyn, bydd angen cyfuniad mwy amrywiol yn y dyfodol o wahanol fathau o ynni – ac o ba ran o’r byd y dôn nhw .

 

Mae ein cyflenwadau nwy yn dod i ben

 

14.        Gan fod adnoddau nwy Môr y Gogledd yn prinhau, nid ydym yn hunan-gynhaliol mewn nwy bellach.  Yn 2000, ychydig iawn o nwy a fewnforiwyd gan y Deyrnas Unedig.  Yn 2011, mae 50% o’n nwy yn cael ei fewnforio ac, erbyn 2020, bydd y ffigwr hwn wedi codi i tua 75%.  Mae hanner y nwy yr ydym yn ei fewnforio yn cael ei bibellu o dan y môr o Norwy neu gyfandir Ewrop ac mae’r hanner arall – y rhan fydd yn cynyddu – yn Nwy Naturiol Hylifedig (LNG), sy’n cael ei fewnforio mewn llongau.  Wrth gwrs, mae Cymru eisoes yn chwarae rhan allweddol yn y maes hwn gyda safleoedd mewnforio South Hook a Dragon yn Aberdaugleddau a rhwydwaith piblinellau cysylltiedig National Grid a osodwyd yn y 5 mlynedd diwethaf.

 

15.        Gall y cyflenwadau o nwy a fewnforir amrywio.  Gall eu ffynhonnell, eu prisiau a’u hargaeledd newid yn aml, gan ddibynnu ar ffactorau yn cynnwys cytundebau masnachol, gwleidyddiaeth ryngwladol a galw’r farchnad (yn fyd-eang, ond yn Ewrop yn arbennig).  Mewn ymateb, mae angen i National Grid wneud llawer mwy i fonitro’r galw a rheoli’r cyflenwad.

 

Y goblygiadau ar gyfer ein rhwydweithiau trawsyrru ynni

 

16.        Er mwyn sicrhau’r gostyngiad enfawr mewn allyriadau carbon a nodwyd uchod, bydd angen cysylltu ffynonellau trydan carbon is – yn cynnwys ffynonellau adnewyddadwy fel ynni gwynt – â’r rhwydwaith trawsyrru trydan.  Cynlluniwyd y grid trawsyrru presennol i drafod trydan o ffynonellau mawr, sefydlog a dibynadwy ond bydd y ffynonellau newydd – sy’n aml yn dibynnu ar natur – yn naturiol yn fwy anodd eu rhagweld a’u rheoli.  Bydd hyn yn golygu cydbwyso, o funud i funud, y cyflenwadau llai rhagweladwy o ynni adnewyddadwy a ffynonellau mwy hyblyg fel gorsafoedd pŵer nwy a ffynonellau sefydlog fel atomfeydd.

 

17.        Y farn gyffredin yw y bydd newid mawr o ran ffynonellau ein trydan a sut y caiff ei ddefnyddio, ond does neb yn gwybod yn union pa ffurf fydd ar y cyfuniad o gyflenwad a’r galw.  Er enghraifft, ar hyn o bryd, ceir contractau i gysylltu dros 60 gigawat o ynni â’n rhwydwaith ni yn y dyfodol ond, mewn gwirionedd, dim ond tua hanner hynny fydd yn cael ei gysylltu.  Felly, er y bydd angen cysylltiadau ar ynni o ffynonellau cynhyrchu newydd – rhai mewn ardaloedd anghysbell lle bydd angen prosiectau adeiladu mawr – ni allwn ragweld yn union lle na phryd y bydd hyn yn digwydd.

 

18.        O ran ein rhwydwaith trawsyrru nwy, er na wyddom eto beth fydd union effaith y newidiadau yn ffynonellau ein nwy naturiol, gwyddom y bydd angen i ni addasu ein system i ymdopi â’r newidiadau hyn, er enghraifft gan y bydd llawer mwy o LNG yn cael ei fewnforio.

 

19.        Felly, mae’n hollol amlwg bod rhaid buddsoddi’n sylweddol yn seilwaith ynni y Deyrnas Unedig er mwyn cyrraedd ein targedau ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy a lleihau allyriadau carbon deuocsid.  Er mwyn gwneud y gwaith buddsoddi a datblygu mewn pryd, mae’n hanfodol bod systemau cynllunio y Deyrnas Unedig yn cael eu symleiddio, eu cysoni a’u cydgysylltu hyd y bo modd er mwyn rhoi mwy o sicrwydd, effeithlonrwydd a chysondeb i bawb a chynnal ansawdd y gwaith penderfynu ar yr un pryd.  Er mwyn gwneud hyn, mae’n hanfodol bod y nodau y mae systemau cynllunio cenedlaethol Cymru, Lloegr a’r Alban yn anelu atynt yn cael eu cysoni â’i gilydd a, hyd y bo modd, â pholisïau cynllunio ‘lleol’.

 

Prosiectau cyfredol National Grid yng Nghymru

 

20.        Ar hyn o bryd, mae gan National Grid un prosiect yng Nghymru y mae’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith wedi’i hysbysu amdano. Mae prosiect Cysylltiad Canolbarth Cymru i gysylltu ffermydd gwynt TAN8 arfaethedig yn un trawsffiniol â Lloegr ac mae newydd fod trwy’r cyfnod cyntaf o ymgynghori â’r cyhoedd cyn gwneud y cais.  Prosiect arall yng Nghymru sydd newydd ddechrau pennu dewisiadau strategol yw prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru, sy’n ystyried pa waith y bydd raid ei wneud i gysylltu atomfa newydd yr Wylfa a Chylch 3, ffermydd gwynt ar y môr ym Môr Iwerddon.

 

21.        Yn ogystal, rydym yn datblygu cynlluniau ar y cyd gyda Scottish Power Transmission ar gyfer cysylltiad DC foltedd uchel tanfor rhwng Hunterston yn yr Alban a Glannau Dyfrdwy, sy’n gynllun trawsffiniol rhwng Cymru, Lloegr, Ynys Manaw, Gogledd Iwerddon a’r Alban o ran dyfroedd tiriogaethol.  Mae’r prosiect hwnnw’n cynnwys cysylltiad tanfor 2000MW gyda gorsafoedd trawsnewid a cheblau tanddaear ar y tir mewn rhannau o Gymru a Lloegr (yn dod i’r lan ar benrhyn Cilgwri) ac yn yr Alban ac nid oes arno angen caniatâd o dan y Ddeddf Gynllunio.  Cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Chwefror 2011 a bwriedir cyflwyno cais cynllunio am yr orsaf drawsnewid yng Nghei Connah i Gyngor Sir y Fflint cyn hir.

 

 

 

 

Y cwestiynau y mae’r Ymchwiliad yn eu hystyried

 

Beth yw’r goblygiadau i Gymru os bydd y cyfrifoldeb dros ganiatáu prosiectau seilwaith mawr ar y tir mawr ac ar y môr yn parhau i fod yn fater sy’n cael ei gadw yn ôl gan Lywodraeth y DU?

 

22.        Mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei barn yn glir, mewn dadl yn Neuadd Westminster ar 6 Medi 2011, ddiwethaf, mai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd ddylai wneud penderfyniadau ar brosiectau ynni mawr yng Nghymru a Lloegr.  Esboniodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Greg Barker, bod angen system unedig ar gyfer polisi ynni a chynllunio  dros Gymru a Lloegr a bod gan lywodraeth y DU hawl ddemocrataidd i gymryd penderfyniadau fel hyn ynghylch Cymru, gan ei bod yn atebol i etholwyr Cymru.  O ran y drefn lle mae ceisiadau i godi gorsafoedd newydd i gynhyrchu trydan ar y tir yn dod o dan y Ddeddf Cynllunio os byddant yn gallu cynhyrchu mwy na 50MW, esboniodd Mr Barker bod Llywodraeth y DU o’r farn bod y trothwy o 50MW yn addas gan fod arwyddocâd ar lefel y DU i ddatblygiadau mwy na hyn, yn cynnwys ffermydd gwynt mawr, ac felly mai Llywodraeth y DU ddylai wneud penderfyniadau ynghylch eu datblygu.

 

23.        Rydym yn gryf o blaid yr egwyddor a nodwyd gan Lywodraeth y DU ei bod yn rhaid cael cael cyd-destun cryf, clir, cydgysylltiedig a chyfunol o ran polisi ynni a chynllunio a system gynllunio mor effeithiol ag y bo modd er mwyn annog yr arloesi a’r buddsoddi angenrheidiol mewn effeithlonrwydd ynni a thechnolegau carbon isel newydd.

 

24.        Mae Deddf Cynllunio 2008 wedi cyflwyno trefn gynllunio symlach yng Nghymru a Lloegr ar gyfer rhai mathau o NSIPs.  Dynodwyd nifer o Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol hefyd sy’n nodi’n glir bolisi’r Llywodraeth ar yr angen am y gwahanol fathau o NSIPs newydd ac yn egluro pa fathau o ddatblygiad sydd yn unol â pholisi’r Llywodraeth a pha rai nad ydynt.

 

25.        Yn dilyn proses o ymgynghori â’r cyhoedd, ac adolygu a chadarnhau gan y Senedd, cafodd set o chwe Datganiad Polisi Cenedlaethol yn ymwneud ag ynni eu dynodi ym mis Gorffennaf 2011:

 

 

26.        Ar ôl dynodi’r rhain, mae’n rhaid i benderfyniadau ynghylch ceisiadau am Orchmynion Caniatâd Datblygu (DCO) sy’n ymwneud ag ynni gael eu gwneud yn unol â’r Datganiad Polisi Cenedlaethol perthnasol, ac eithrio i’r graddau y byddai gwneud hynny yn torri ymrwymiadau rhyngwladol, neu ddyletswyddau neu gyfreithiau eraill, neu lle byddai’r datblygiad yn gwneud mwy o ddrwg nag o les.

 

27.        Felly, mae’r Llywodraeth wedi nodi’n glir bod Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn ganolog i’r drefn newydd ac mai dyma yw’r brif sail dros wneud penderfyniadau ar NSIPs.   Felly, y rhain yw’r brif ddogfen bolisi ar gyfer yr IPC, yr Ysgrifennydd Gwladol, ymgeiswyr ac eraill sy’n ymwneud â’r mater pan fyddant yn ystyried ceisiadau am ganiatâd o dan y Ddeddf Gynllunio[9].

 

28.        Mae National Grid yn croesawu ac yn cefnogi’n gryf ddynodiad y Datganiadau Polisi Cenedlaethol sy’n ymwneud ag ynni, yr eglurdeb y maent yn ei roi a’r ffaith ei bod yn ofynnol i benderfyniadau am geisiadau am ganiatâd o dan Ddeddf Cynllunio 2008 gael eu gwneud yn unol â’r Datganiadau hynny.   Yn ein barn ni, mae hyn yn hanfodol ar gyfer y buddsoddiad angenrheidiol.  Mae eglurdeb ynghylch y berthynas rhwng y Datganiadau Polisi Cenedlaethol ac ystyriaethau perthnasol eraill, yn cynnwys polisïau cynllunio yng Nghymru, yn hanfodol hefyd.  Mewn ymateb i’r ymghyngoriadau ar y Datganiadau drafft, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnbaod mai’r Datganiadau yw’r brif sail dros benderfyniadau am NSIPs ac mae wedi galw am sicrhau mai Polisi Cymru yw’r brif sail dros benderfyniadau nad ydynt yn cael eu gwneud gan yr IPC.[10]

 

29.        Mae’r chwe Datganiad Polisi Cenedlaethol ym maes ynni a ddynodwyd ym mis Gorffennaf 2011:

 

(i)    yn cadarnhau mai nhw yw’r brif sail dros benderfyniadau ynghylch Gorchmynion Caniatâd Datblygu am brosiectau NSIP;

(ii)  yn nodi’n glir bod materion eraill y gall yr IPC eu hystyried, yn cynnwys adroddiadau am effeithiau lleol a gyflwynir gan yr awdurdod lleol perthnasol, dogfennau’n ymwneud â’r Cynllun Datblygu neu ddogfennau eraill yn y Fframwaith Datblygu Lleol a Datganiadau Polisi Morol;

(iii) yn esbonio mai’r Datganiad Polisi Cenedlaethol sydd drechaf at ddibenion penderfyniadau’r IPC os ceir gwrthdaro rhwng y Dogfennau Polisi Cenedlaethol neu unrhyw ddogfen arall a’r  Dataniad Polisi Cenedlaethol gan fod y seilwaith o arwyddocâd trwy Gymru a Lloegr;

(iv) yn cadarnhau bod y Datganiadau yn debygol o fod yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau sy’n dod o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yng Nghymru a Lloegr – penderfynir fesul achos faint o bwysau a roddir arnynt; ac

(v)   yn cadarnhau bod y Datganiadau wedi talu sylw i Nodiadau Cymorth Technegol (TAN) yng Nghymru lle bo’n briodol.

 

30.        Yn ogystal, mae’r IPC wedi cadarnhau nad yw polisïau Llywodraeth Cymru yn cario’r un pwysau â’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol mewn penderfyniadau am geisiadau am ganiatâd o dan Ddeddf Cynllunio 2008[11] er y byddant yn ystyriaeth bwysig lle bônt yn berthnasol.  Felly, mae National Grid yn teimlo bod statws y Datganiadau a’r berthynas rhyngddynt a dogfennau eraill ym maes polisi cynllunio yn ddigon clir.

 

31.        Yn ogystal â chyd-destun clir ar bolisi ynni a chynllunio cenedlaethol, mae Deddf Cynllunio 2008 yn cyflwyno’r syniad o un caniatâd ac yn rhoi mwy o sicrwydd am amserlenni ceisiadau am Brosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd.  Mae National Grid yn gryf o blaid yr egwyddor o system gynllunio symlach lle gall penderfyniadau am brosiect seilwaith mawr a ddatblygwyd trwy broses o ymwneud yn briodol â chymunedau ac ymgyngoreion eraill fynd trwy broses ymgeisio am un caniatâd yn unig.

 

32.        Mae National Grid yn nodi na chaiff ei hystyried yn briodol i ddatganoli’r cyfrifoldeb am roi caniatâd i brosiectau ynni am y rhesymau a amlinellwyd uchod ac felly nad yw ar agenda Llywodraeth San Steffan hyd yma.  A ninnau’n gwmni sy’n gweithio yng Nghymru a Lloegr, byddem yn bryderus pe bai gennym brosiect trawsffiniol a hwnnw’n cael caniatâd yn y naill neu’r llall yn unig o’r ardaloedd gweinyddol oherwydd gwahaniaeth barn rhwng Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch materion polisi ynni.

 

33.        Ar y cychwyn disgrifiwyd y newidiadau i Ddeddf Cynllunio 2008 fel ‘trefn un caniatâd’, ond bellach deellir fod y broses mewn difrif yn ymwneud â chydlynu caniatâd o dan wahanol gyfundrefnau. Mae’r ‘amserlennu cydweithredol’ hwn yn arwain at yr hyn a ddisgrifir fel ‘trefn ganiatáu aliniedig’. Er bod y syniad o’r drefn un caniatâd yn fwy perthnasol i Loegr nag i Gymru, gan fod gwaith datblygu cysylltiedig yng Nghymru wedi’i gyfyngu i rai mathau o waith sy’n ymwneud â chynlluniau i storio nwy o dan y ddaear mewn haenau mandyllog naturiol, mae rhai cydsyniadau/caniatadau y gall cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu ddarparu ar eu cyfer yng Nghymru gyda chytundeb y corff penderfynu arferol.  Mae Adran 150 o’r Ddeddf Cynllunio, a Rheoliadau 2(1) a 2(2) o’r Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol)  2010 yn berthnasol yn hyn o beth.  Byddai National Grid yn annog Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i ddefnyddio’r disgresiwn hwnnw mewn ffordd bragmataidd o dan amgylchiadau priodol lle mai nhw yw’r corff penderfynu arferol.

 

34.        Yn ein Nodyn Cyngor 11: “Working with Public Bodies – Part 1” (Mai 2011)[12], mae’r IPC yn annog datblygwyr ac ymgyngoreion i benderfynu mor fuan ag y bo modd yn y cyfnod cyn gwneud y cais ar raglen gynhwysfawr a manwl o’r amrediad o ganiatadau tebygol a all fod yn angenrheidiol ar gyfer NSIP. Mae’n eu hannog hefyd i drafod gyda’r cyrff cydsynio arferol a fyddai’n briodol cynnwys y caniatadau hynny mewn cais am Orchymyn Caniatad Datblygu neu i’r Gorchymyn wneud cyfrif amdanynt.  Lle bo cydsyniadau, trwyddedau a chaniatadau eraill i gael eu cynnwys mewn cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu, mae’r IPC yn cynghori ymgyngoreion a datblygwyr i amseru eu trafodaethau er mwyn cael cymaint o gytundeb ag y bo modd cyn gwneud y cais. Yn ogystal, mae’r Comisiwn yn annog datblygwyr i roi gwybodaeth i gefnogi eu cais am DCO gan nodi pa mor agos ydynt at ganiatadau felly o dan ddeddfwriaeth arall lle gwnaed cais am y rheiny eisoes cyn y cais DCO.  Disgwylir i’r Comisiwn gyhoeddi rhagor o arweiniad yn y maes hwn. Mae’r Comisiwn wedi dweud bod “ystyried y trefniadau yng Nghymru” yn rhan o’r symud oddi wrth ‘trefn un caniatâd’ tuag at ‘drefn ganiatáu aliniedig’. Gallai olygu nad yw’n bwysig ystyried yr hyn y gellir ei gynnwys o fewn unrhyw DCO; gallai fod lawn bwysiced cydlynu materion sydd yn disgyn y tu allan i DCO.

 

35.        Felly, bydd National Grid mewn cysylltiad agos iawn â nifer o gyrff penderfynu yn y cyfnod cyn gwneud y cais ynglŷn â nifer fawr, o bosib, o gydsyniadau atodol a all fod yn angenrheidiol mewn cysylltiad â chynlluniau ar gyfer NSIPs, yng Nghymru a Lloegr, er mwyn ystyried yr union gwestiynau hyn.  Er bod rhai gwahaniaethau yng Nghymru o ran datblygiadau cysyltiedig ac felly y gall y drefn ar gyfer rhoi caniatâd yng Nghymru fod yn fwy darniog, mae National Grid o’r farn na ddylai fod gwahaniaeth mawr yn y ffordd o fynd ati ynglŷn â materion atodol.

 

36.        Yn ei sefyllfa bresennol ac mewn perthynas â Deddf Cynllunio 2008, mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaethau a chyfrifoldebau neilltuol ym maes cynllunio seilwaith, o ran:

 

§  meysydd sydd wedi’u datganoli ar gyfer ffurfio polisïau yng Nghymru, yn cynnwys cynllunio gofodol morol yn nyfroedd tiriogaethol Cymru allan hyd at 200 o filltiroedd morol;

§  swyddogaethau rheoleiddio uniongyrchol;

§  corff rhagnodedig (ymgynghorai statudol) at ddibenion gofynion ymgynghori Deddf Cynllunio 2008 cyn gwneud y gais, ar gyfer yr holl gynigion sy’n debygol o effeithio ar dir yng Nghymru;

§  corff ymgynghori at ddibenion gofynion cwmpasu Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) o dan Ddeddf Cynllunio 2008 ar gyfer yr holl gynigion sy’n debygol o effeithio ar dir yng Nghymru. Mae’r IPC wedi cadarnhau y bydd y rhain yn cynnwys y rhai sy’n ymwneud at NSIPs ar ororau Cymru, mewn dyfroedd tiriogaethol ac ar bob cynllun am safle niwclear;

§  y sawl y mae a wnelo ag unrhyw gais am DCO sydd wedi’i dderbyn o dan Ddeddf Cynllunio 2008;

§  trwyddedau morol yn nyfroedd tiriogaethol Cymru, allan hyd at 200 o filltiroedd morol, ar gyfer gweithgareddau yn y môr neu drosto, neu ar wely’r môr neu oddi tano, a allai gynnwys gosod llinellau uwchben, ceblau a phiblinellau neu waith ymchwiliol fel arolygon ymwthiol;

§  penderfynydd ar gyfer rhai apelau a chydsyniadau eraill;

§  swyddogaeth yn ardystio na fydd tir a roddir yn gyfnewid am dir categori arbennig (e.e. Tir Comin) yn llai manteisiol;

§  goruchwylio asiantaethau fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru; a

§  cefnogi a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

 

37.        Mae National Grid yn croesawu’r canllawiau yn Nodyn Cyngor 12 yr IPC sy’n annog datblygwyr, cyrff penderfynu ac ymgyngoreion i gydweithio’n agos â’i gilydd ar faterion atodol ac rydym yn llawn fwriadu ymroi i gydweithio ac ymgysylltu ag eraill gyda’n cynigion ni am NSIPs.  Rydym hefyd yn croesawu’r Memorandwm Dealltwriaeth rhwng yr IPC a Llywodraeth Cymru[13] sy’n nodi swyddogaethau gweithredol a phrotocolau cydgysylltu er mwyn pennu’r fframwaith ar gyfer cydweithio rhwng yr IPC a Llywodraeth Cymru ar faterion yn ymwneud a NSIPs yng Nghymru, gan gydnabod ei bod yn rhaid i’r ddau sefydliad wneud eu penderfyniadau mewn ffordd ddi-duedd ac annibynnol.  Gyda chysylltiadau cadarnhaol a chyfathrebu brwd rhwng y ddau faes hyn, dylai fod yn haws sicrhau’r system gynllunio symlach yr oedd Deddf Cynllunio 2008 yn ceisio’i sefydlu.

 

Beth fydd yr effaith os na fydd penderfyniadau caniatáu ar gyfer prosiectau seilwaith mawr a datblygiadau cysylltiedig yn cael eu gwneud yn unol â pholisi cynllunio Cymru?

 

38.        Yn ôl Gweinidog blaenorol yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson, ar wahân i fater cyfrifoldebau caniatáu datblygiadau ynni a pholisi niwclear, mae polisi ynni y DU a Chymru yn cytuno ar nifer o bwyntiau sylfaenol ynghylch yr angen i sicrhau ynni fforddiadwy, diogel, carbon isel ar gyfer ein pobl[14].  Mae’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol a gyflwynwyd yn dilyn proses ymgynghori dryloyw a phroses seneddol atebol a oedd yn agored i bawb yng Nghymru a Lloegr, wedi pennu’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer polisi ynni a bydd yn cael blaenoriaeth mewn penderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer NSIPs yng Nghymru a Lloegr.  Credwn ei bod yn hanfodol cael cyd-destun cryf, clir, cydgysylltiedig a chyfunol o ran polisi ynni a chynllunio a system gynllunio mor effeithiol ag y bo modd er mwyn annog y math cywir o arloesi a buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni a thechnolegau carbon isel newydd.

 

 

Sut mae hyn effeithio ar gyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwahanol fathau o ynni adnewyddadwy a charbon isel, fel y’u nodir yn y Datganiad Polisi Ynni? 

 

 

39.        Fel yr esboniwyd cynt yn y dystiolaeth hon, y farn gyffredinol yw y bydd newid mawr o ran ffynonellau ein trydan a sut y caiff ei ddefnyddio, ond does neb yn gwybod yn union pa ffurf fydd ar y cyfuniad o’r cyflenwad a’r galw.  Er enghraifft, ar hyn o bryd, ceir contractau i gysylltu dros 60 gigawat o ynni â’n rhwydwaith ni yn y dyfodol ond, mewn gwirionedd, dim ond tua hanner hynny fydd yn cael ei gysylltu.  Felly, er y bydd angen cysylltiadau ar ynni o ffynonellau cynhyrchu newydd – rhai mewn ardaloedd anghysbell lle bydd angen prosiectau adeiladu mawr – ni allwn ragweld yn union lle na phryd y bydd hyn yn digwydd. Ar wahân i’r cwestiwn pwysig ynghylch datblygu atomfeydd newydd yng Nghymru, ymddengys bod cytundeb bras rhwng polisi ynni y DU a Chymru ar yr angen i sicrhau ynni fforddiadwy, diogel, carbon isel, ac rydym yn nodi ac yn croesawu hynny[15].

 

Sut mae hyn yn effeithio ar gyflawni targed Llywodraeth Cymru o gael gostyngiad o 3 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr bob blwyddyn o 2011 ymlaen?

 

40.        Gweler yr ateb i’r cwestiwn blaenorol uchod.

 

23 Medi 2011



[1] Mae targedau Deddf Newid Hinsawdd 2008 yn rhwymo’r DU i sicrhau gostyngiad o 80% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, ac mae Cyfarwyddeb Ynni Adnewyddadwy yr UE yn mynnu bod  15% o’r holl ynni yn dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020.

[2] O’n cynllun busnes RIIO T1 a gyflwynwyd i Ofgem yng Ngorffennaf 2011. Cyfanswm y gwariant (nominal) Trawsyrru Trydan National Grid £21.9bn, Trawsyrru Nwy National Grid £8.8bn http://www.talkingnetworkstx.com/

[3] http://www.decc.gov.uk/en/content/cms/meeting_energy/consents_planning/nps_en_infra/nps_en_infra.aspx

[4] http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2008/29/contents

[5] http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2008/29/contents

[6] http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-scrutiny-committees/bus-committees-third-sc-home/bus-committees-third-sc-agendas.htm?act=dis&id=159461&ds=2/2010

[7] http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2008/27/contents

[8] http://wales.gov.uk/docs/desh/policy/100331energystatementen.pdf

[9] http://www.communities.gov.uk/documents/planningandbuilding/pdf/1376507.pdf

[10] http://www.decc.gov.uk/en/content/cms/meeting_energy/consents_planning/nps_en_infra/resp_2nd_cons/resp_2nd_cons.aspx

[11] http://www.assemblywales.org/sc_3_-19-10_paper_1_-_evidence_from_the_infrastructure_planning_commission.pdf

[12] http://infrastructure.independent.gov.uk/wp-content/uploads/2011/05/Advice-note-11-Working-with-public-bodies.pdf

[13] http://infrastructure.independent.gov.uk/2010/10/infrastructure-planning-commission-and-welsh-assembly-government-agree-memorandum-of-understanding/ 

[14] http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-scrutiny-committees/bus-committees-third-sc-home/bus-committees-third-sc-agendas.htm?act=dis&id=159461&ds=2/2010

[15] http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-third-assembly/bus-committees/bus-committees-scrutiny-committees/bus-committees-third-sc-home/bus-committees-third-sc-agendas.htm?act=dis&id=159461&ds=2/2010